Paul Nuttall (Llun: golwg360)
Mae arweinydd plaid UKIP wedi galw ar i’r Frawdoliaeth Fwslimaidd gael eu gwahardd o wledydd Prydain.

Mae Paul Nuttall yn honni fod y mudiad wedi bod yn “allweddol” yn y broses o hyrwyddo “bydolwg eithafol” yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n awgrymu fod Theresa May wedi methu gweithredu yn erbyn y grwp.

Dyna pam, meddai, ei fod yn galw am ymchwiliad brys i weithgareddau’r Frawdoliaeth a chymdeithasau cysylltiedig.

“Mae’r Frawdoliaeth Fwslimaidd wedi’i gwahardd o nifer o wledydd,” meddai Paul Nuttall. “Yn 2015, fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain adolygiad – Adolygiad Jenkins – a oedd yn nodi’n glir broblemau’r grwp… ond doedd argymhellion yr adolygiad ddim yn ddigon cryf.

“Roedd yn argymell gwrthod fisas i aelodau a phobol oedd yn gysylltiedig â’r Frawdoliaeth… Fe hoffwn i wybod gan y Llywodraeth faint o eithafwyr sydd wedi methu â chael fisas dan y rheolau presennol?”