Leo Varadkar,chwith, a Simon Coveney (Parth cyhoeddus a Lluoedd Amddiffyn Iwerddon CCA 2.5)
Fe allai Iwerddon gael prif weinidog – Taoiseach – sy’n agored hoyw ac yn fab i fewnfudwr i’r wlad.
Leo Varadkar yw’r ffefryn i ddod yn arweinydd newydd plaid y llywodraeth, Fine Gael, wrth i’r pleidleisio mewnol ddod i ben.
Mae disgwyl y bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y dydd heddiw ac mae’r Taoiseach presennol, Enda Kenny, wedi dymuno’n dda i’r ddau ymgeisydd ac yn addo’i gefnogaeth lawn.
Fe fyddai ethol Leo Varadkar, 38 oed o Ddulyn, yn cael ei ystyried yn gam pwysig i wlad sydd, yn draddodiadol, yn gymharol geidwadol ei harferion cymdeithasol.
Y bleidlais
Fe gyhoeddodd Enda Kenny ei fod yn ymddeol ar ôl 15 mlynedd yn arwain ei blaid a dau gyfnod yn Taoiseach.
Fe fu aelodau cyffredin y blaid yn pleidleisio trwy gydol yr wythnos ac mae’r blaid seneddol – sydd â 65% o’r bleidlais – yn dewis y bore yma.
Yr ymgeisydd arall yw Simon Coveney, 44, o Corc.