Theresa May dan bwysau (llun o'i chyfri Twitter)
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, oedd y gynta’ i ymosod ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May, am fethu â chymryd rhan yn nadl deledu’r arweinwyr neithiwr.

Hi agorodd y rhaglen ac fe gyhuddodd y Blaid Lafur yng Nghymru hefyd o geisio cadw hyd braich oddi wrth eu harweinydd eu hunain, Jeremy Corbyn.

Bar y sylwebyddion diduedd oedd na wnaeth yr un o’r saith gwleidydd smonach ohoni ond nad oedd yr un wedi ennill chwaith.

Ond mae Theresa May, arweinydd y Ceidwadwyr, wedi cael ei beirniadu’n eang am wrthod cymryd rhan a dadlau ei hachos.

Pwy oedd yno?

Fe gymerodd yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, fantais o absenoldeb Theresa May ar ôl gwneud penderfyniad munud ola’ i gymryd rhan ei hun. Yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd oedd yn cynrychioli’r Ceidwadwyr.

Dadl Theresa May oedd ei bod yn well ganddi hi fynd i gwrdd ag etholwyr “go iawn”.

Y gweddill oedd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron; Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood; Cyd-arweinydd y Blaid Werdd, Caroline Lucas; Arweinydd UKIP, Paul Nutall a Dirprwy Arweinydd yr SNP Angus Robertson.

Peth o’r dadlau

Gwrthdarodd Jeremy Corbyn ac Amber Rudd dros doriadau i wasanaethau cyhoeddus gydag Arweinydd y Blaid Lafur yn holi: “Wyt ti erioed wedi bod i fanc bwyd? Wyt ti wedi gweld pobol yn cysgu ar loriau ein gorsafoedd?”

Roedd Angus Robertson wedi herio Amber Rudd hefyd am doriadau i lwfans tanwydd i bensiynwyr yn Lloegr, gyda Caroline Lucas yn clodfori manteision mewnfudo.

Yn ystod y ddadl bu’n rhaid i Paul Nuttall ymdrin â chyhuddiadau bod ei blaid yn erlid mewnfudwyr a mynnodd “mae’n rhaid i ni reoli maint ein poblogaeth”.

Theresa May oedd targed Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, gyda Tim Farron yn amau gallu’r Prif Weinidog i sicrhau dêl Brexit dda i wledydd Prydain.