Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud mai nid mwyafrif sydd ei angen ar ei phlaid ar Fehefin 8 eleni, ond yn hytrach digon o awdurdod i allu gwthio am refferendwm ar annibyniaeth i Gymru, fel yr Alban.

Mae llywodraethau San Steffan wedi gallu anwybyddu Cymru “am genedlaethau”, meddai Leanne Wood, a hynny oherwydd nad oedd 40 Aelod Seneddol yn gallu cael llywodraeth yn Nhy’r Cyffredin.

Ond, meddai, mae’r ffaith bod plaid yr SNP wedi llwyddo i ennill 56 sedd allan o 59 yn yr Alban yn etholiad 2015, wedi dangos yr hyn y gall bloc o aelodau seneddol yn gallu cyfleu llais clir.

“Dim ond 40 o aelodau sydd gan Gymru, o gymharu a 533 o aelodau Seneddol i Loegr,” meddai Leanne Wood.

“Rydyn ni’n gwybod na chawn ni byth fwyafrif yn San Steffan, ond dyw hynny ddim yn golygu y dylai llywodraeth ar ol llywodraeth allu anwybyddu ein cenedl.

“Mandad sydd ei angen ar Gymru, nid mwyafrif.

“Trwy ethol tim cryf o Aelodau Seneddol Plaid Cymru, fe allwn ni fynnu mandad i roi Cymru a’i dyfodol ar yr agenda wleidyddol.”