Paul Nuttall (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Fe fydd UKIP yn gryfach nag erioed ymhen dwy flynedd, yn ôl ei harweinydd, Paul Nuttall.

Ond mae’n cyfaddef nad yw’n hyderus y caiff e ei hun ei ethol yn yr etholiad cyffredinol brys fis nesaf wrth iddo sefyll yn Swydd Lincoln.

Doedd e ddim ychwaith yn fodlon dweud sawl sedd mae e’n credu y bydd ei blaid yn eu hennill ymhen 19 diwrnod.

Dywedodd fod y blaid yn “targedu’n synhwyrol” wrth geisio ennill seddau, ac y byddai’n “rhoi cynnig” ar ennill ei sedd ei hun yn Boston a Skegness.

Ond mae e hefyd yn credu na fydd ei blaid yn ennill yr un nifer o bleidleisiau ag y gwnaethon nhw yn yr etholiad cyffredinol yn 2015 (3.9 miliwn).

Polisi

Mae UKIP wedi penderfynu na fyddan nhw’n cynnig ymgeiswyr mewn etholaethau lle’r oedd yr ymgeisydd Ceidwadol o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd – penderfyniad oedd yn “anrhydeddus”, yn ôl Paul Nuttall.

“Mewn gwirionedd, mae’n etholiad unigryw gan ei fod yn cylchdroi o amgylch Brexit.”

Ond mae’n wfftio’r awgrym fod Brexit yn golygu bod gwaith y blaid yn gyflawn.

“Bydd UKIP yn fwy nag y bu erioed ymhen dwy flynedd.

“Bydd hi [Theresa May] yn llithro am yn ôl, dw i’n credu ei bod hi’n eithaf amlwg beth fydd hi’n ei wneud.

“Bydd hi’n cael mwyafrif sylweddol i’r Torïaid ac yn dechrau ei gyfnewid i ffwrdd.

“Bydd hi’n cyfnewid y pysgodfeydd, bydd dêl o ran y bil ysgariad yma… Dw i’n credu y bydd dêl ynghylch symud rhydd hefyd ac nid dyna’r oedd pobol Prydain wedi pleidleisio ar Fehefin 23 y llynedd i’w gael.”

Dywedodd mai UKIP yw’r unig le y gall Ceidwadwyr droi pan fyddan nhw wedi’u dadrithio.

Difrod

Yn y cyfamser, fe fu’n rhaid i UKIP ohirio’u hymgyrchu ddydd Gwener ar ôl i fws y blaid gael ei ddifrodi.

Roedd y bws yn cynnwys llun Paul Nuttall ar yr ochr, ac fe gafodd ei daro gan lori dros nos.

Yn ôl Paul Nuttall, “damwain llwyr” oedd y digwyddiad.