Mae Llafur Cymru wedi ceisio datgysylltu ymhellach oddi wrth y blaid yn San Steffan ar ôl pwysleisio nad eu maniffesto nhw yw’r un sydd wedi cael ei roi i’r wasg yn answyddogol heddiw.

Dydi’r blaid yng Nghymru ddim am gael ei chysylltu â’r maniffesto drafft sy’n cynnwys cynlluniau i genedlaetholi’r diwydiant ynni, bysus a rheilffyrdd, dileu ffioedd dysgu a dadwneud toriadau’r Torïaid.

“Mae adroddiadau o faniffesto sydd wedi cael ei roi i’r wasg yn cyfeirio at hen ddogfen ddrafft y Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd ar ran Llafur Cymru.

“Nid maniffesto Llafur Cymru yw hwn ac mae’n cynnwys cynigion i Loegr yn unig. Bydd Llafur Cymru yn cyhoeddi ei maniffesto gwahanol, gan adeiladu ar lwyddiant ein pum addewid i Gymru.

“Mae Llafur Cymru yn gyfrifol pan mae’n dod i arian – rydym wedi gwneud penderfyniadau gwario anodd ond teg drwy gydol y ddegawd ddiwethaf o gyllidebau llai.”

Llafur Cymru yn gwneud penderfyniadau dros Gymru

Ychwanegodd hefyd, pe bai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn gwrthdroi toriadau’r Torïaid, y byddai Llywodraeth Cymru yn cynnal “adolygiad gwario”.

Byddai hynny’n golygu rhoi unrhyw arian ychwanegol at “greu swyddi, buddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd a chadw momentwm newydd mewn addysg.”

“Un o ddaliadau pwysicaf gwleidyddiaeth ddatganoledig, yw’r hawl i Lywodraeth Lafur Cymru wneud penderfyniadau, gosod blaenoriaethau a gwario arian ar sail anghenion pobol Cymru,” ychwanegodd y llefarydd.