Mae Plaid Cymru yn rhybuddio Llywodraeth Geidwadol Prydain i feddwl eto os ydi hi’n meddwl y gall breifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd.

Mewn dadl yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher,  fe fydd Plaid Cymru yn ceisio “anfon neges” i San Steffan “nad yw Gwasanaeth Iechyd Cymru ar werth”.

Llywodraeth Geidwadol Prydain oedd un o ychydig aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd i gefnogi’r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsiwerydd (TTIP), oedd yn golygu bod y Gwasanaeth Iechyd mewn peryg o gael ei breifateiddio.

Mater i’r Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol fydd llunio cytundebau masnach ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, a thrwy hynny yr Undeb Tollau.

Yn ystod y ddadl ym Mae Caerdydd, fe fydd Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i:

• gefnogi’r egwyddor o gadw Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn dwylo cyhoeddus;
• mynegi pryder ynghylch preifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd yn llechwraidd yn Lloegr dan y Torïaid
• mynnu bod yn rhaid i gytundebau masnach yn y dyfodol rhwng y Deyrnas Gyfunol a phartïon eraill, lle mae’r cytundebau hynny yn effeithio ar feysydd polisi datganoledig megis iechyd, fod yn amodol ar gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

‘Un o lwyddiannau mwyaf Cymru’

Yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, “un o lwyddiannau mwyaf Cymru” yw’r Gwasanaeth Iechyd, “a’n dyletswydd ni fel gwleidyddion yw ei amddiffyn a’i gryfhau”.

Ychwanegodd y “dylai’r Gwasanaeth Iechyd yn wastad fod yn nwylo’r cyhoedd a chael ei redeg er budd y cyhoedd – byth er mwyn elw yn unig”.

“Gwyddom fod y Torïaid yn ysu am adael i’r sector preifat gael eu dwylo ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac un o’r rhai mwyaf awyddus i wneud hyn yw’r gŵr fydd yn y pen draw yn llofnodi cytundebau masnach, gan agor y drws i breifateiddio.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth mae’r Blaid Lafur wedi methu “yn eu dyletswydd o fod yn wrthblaid”, ac maen nhw’n “rhy wan a rhanedig i sefyll i fyny i’r Torïaid – yn rhy brysur yn ymosod ar eu harweinydd eu hunain i ddal y Prif Weinidog i gyfrif”