Dyma’r canlyniadau llawn

Abertawe

Rhyddhad mawr i Lafur, gan ddal gafael mewn grym a dim ond cynnydd bach i’r Ceidwadwyr, yn benna’ ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol.

Llafur                    48 (-1)

Ceidwadwyr          8  (+4)

Dem Rhydd         7  (-5)

Arall                        9 (+2)

Blaenau Gwent

Roedd yr AC lleol Alun Davies, yn siomedig wrth i Lafur golli rheolaeth. Yr Annibynwyr sydd bellach yn rheoli a’r arweinydd Llafur, Brendan Toomey, wedi colli ei sedd.

Annibynnwyr       26 (+14)

Llafur                    12 (-17)

Plaid Cymru         1 (+1)

(Heb gynnwys ward Blaina eleni)

Bro Morgannwg

Buddugoliaeth i’r Ceidwadwyr fan hyn, digon bron i reoli’r Cyngor.

Ceidwadwyr     23 (+12)

Llafur                 14 (-7)

Annibynnol         6 (-1)

Plaid Cymru        4 (-3)

UKIP                     0 (-1)

 Caerdydd

Llafur yn dal gafael ar y brifddinas, ond y Ceidwadwyr yn gwneud cynnydd sylweddol ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.

Llafur                 40 (+1)

Ceidwadwyr     20 (+13)

Dem Rhydd      11 (-5)

Plaid Cymru    3 (-2)

Annibynnol     1 (-1)

Caerffili

Canlyniad calonogol i Gaerffili, ond yn siomedig i Blaid Cymru, mae’n siwr nad oedden nhw’n disgwyl colli seddi fan hyn

Llafur     50

Plaid Cymru   18 (-2)

Annibynnol    5 (+2)

Casnewydd

Dyma ardal lle’r oedd y Ceidwadwyr yn disgwyl gwneud yn dda, gyda llygad ar y ddwy sedd yn yr Etholiad Cyffredinol… ond fe lwyddodd Llafur i ddal ei thir yn weddol.

Llafur                    31 (-6)

Ceidwadwyr        12 (+2)

Annibynnol          5  (+3)

Dem Rhydd         2  (+1)

Castell Nedd Port Talbot

Dyma berfformiad cryfaf Plaid Cymru cyn y cyfri’ yn eu cadarnleoedd, gan ddechrau wneud marc yn ardal Port Talbot. Ond maen nhw’n dal i fod yn wannach nag ar ddechrau’r Milenniwm.

Llafur                    45 (-7)

Plaid Cymru         15 (+7)

Annibynnol          5

Dem Rhydd         1 (+1)

 Ceredigion

Mae’r arweinydd, Elen ap Gwynn, eisoes wedi dweud y bydd rhaid i Blaid Cymru gydweithio er mwyn parhau i arwain y cyngor.

Plaid Cymru         18 (-1)

Annibynnol          15 (+1)

Dem Rhydd         7

Llafur                    1

Gwag                   1

Conwy

Dim un plaid yn llwyddo i gipio grym

Annibynnol   20

Ceidwadwyr  16  (-3)

Plaid Cymru  10   (+2)

Llafur  8    (+2)

Dem Rhydd  4

Arall   1

Gwynedd

Plaid Cymru yn dal gafael, ond y nifer o ymgeiswyr Annibynnol yn cynyddu’n sylweddol.

Plaid Cymru     40 (+1)

Annibynnol      32 (+11)

Llais Gwynedd  6 (-1)

Llafur                 1

Dem Rhydd      1

Merthyr Tudful

Mae’r canlyniad yn y fantol, gyda thair sedd i’w penderfynu ymhen y mis, ar ôl marwolaeth un ymgeisydd. Ond mae Llafur wedi colli’n drwm ac mewn peryg o golli rheolaeth.

Llafur                    14 (-9)

Annibynnol          16 (+7)

UKIP                     0 (-1)

Pen-y-bont ar Ogwr

Colled drom i Lafur, yn ardal Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Cynnydd anferth i’r Ceidwadwyr, efallai o ganlyniad i ymweliad gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May.

Llafur                    26 (-13)

Ceidwadwyr        11 (+10)

Annibynnol          13 (+3)

Plaid Cymru         3 (+2)

Dem Rhydd         1 (-2)

 Powys

Neb â grym llawn ym Mhowys, ac mae’n debyg y bydd yn rhaid cael clymblaid i reoli.

Annibynnol    30 (-6)

Ceidwadwyr   19 (+9)

Dem Rhydd    13 (+2)

Llafur               7

Plaid Cymru    2 (+2)

Y Blaid Werdd 1 (+1)

1 sedd wag

Rhondda Cynon Taf

Llafur yn dal gafael ar y Cyngor ond wedi colli pleidleisiau i Blaid Cymru

Llafur:    47 (-13)

Plaid Cymru:   18 (+8)

Annibynnol:    4

Ceidwadwyr:   4 (-1)

Dem Rhydd:    1

Cynon Valley:  1

Sir Benfro

Cynnydd i’r Ceidwadwyr ond a fydd yn ddigon i sicrhau clymblaid â’r Annibynwyr?

Annibynnol     34 (-14)

Ceidwadwyr    12 (+9)

Llafur        7 (+2)

Plaid Cymru    6 (+2)

Dem Rhydd     1 (+1)

Sir Ddinbych

Canlyniad da arall i’r Ceidwadwyr, ond fydd o ddim yn ddigon i gipio rheolaeth lawn o’r Cyngor.

Ceidwadwyr    16 (+7)

Llafur    13 (-5)

Plaid Cymru   9 (+2)

Annibynnol   8 (-4)

Dem Rhydd   1

Sir Fynwy

Y Ceidwadwyr yn cryfhau digon i allu rheoli heb gymorth y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ceidwadwyr        26 (+7)

Llafur                    10 (-2)

Annibynnol          5  (-5)

Dem Rhydd         3

Sir y Fflint

Dyma ardal lle mae Llafur yn fregus yn yr Etholiad Cyffredinol, ond roedd y canlyniad yn galonogol iawn iddyn nhw a’r Ceidwadwyr yn colli tir.

Llafur                    34 (+3)

Annibynnol          23 (+4)

Ceidwadwyr         6 (-2)

Dem Rhydd         5 (-2)

Eraill                     2 (-2)

Plaid Cymru         0 (-1)

Sir Gaerfyrddin

Plaid Cymru yn llwyddo i gipio tir ond heb gael digon i rheoli’r Cyngor yn llawn

Plaid Cymru   36 (+8)

Llafur     22 (-1)

Annibynnol 16   (-7)

Torfaen

Yn wahanol i’w cymdogion ym Mlaenau Gwent, fe wnaeth Llafur yn dda a Phlaid Cymru’n colli tir.

Llafur                    29 (-1)

Annibynnol          11 (+3)

Ceidwadwyr            4

Plaid Cymru             0 (-2)

Wrecsam

Yr Annibynwyr bellach yw’r garfan fwya’, gan ddisodli Llafur, a gafodd golledion trwm. Roedd enillion bach i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr.

Annibynnol          27 (+8)

Llafur                    11 (-12)

Ceidwadwyr        9 (+4)

Plaid Cymru         3 (+2)

Dem Rhydd         2 (-2)

Ynys Môn

Plaid Cymru yw’r blaid fwyaf ar y cyngor bellach, ond heb ddigon i gipio rheolaeth lawn.

Plaid Cymru:    14 (+2)

Annibynnol:    13 (-3)

Llafur:    2

Dem Rhydd:    1