Nicola Sturgeon *Llun: Andrew Cowan/PA Wire)
Mae arweinydd plaid genedlaethol yr Alban wedi annog pleidleiwyr y wlad honno i beidio â chaniatau i Theresa May “lusgo’r Alban am yn ol” wedi etholiad cyffredinol Mehefin 8.

Yn ol Nicola Sturgeon, ni ddylid rhoi’r cyfle i’r Ceidwadwyr “wneud fel y mynnont” â’r Alban wedi’r etholiad brys. Mae hi wedi bod yn annerch gweithwyr a chefnogwyr plaid yr SNP yn nwyrain Glasgow.

Ac nid y Toriaid yn unig oedd dan y lach ganddi. Fe ddylai’r blaid wneud yn siwr fod “llaw farw, gaethiwus Llafur” yn cael ei symud unwaith ac am byth o swyddfeydd cynghorau sir yr Alban, er mwyn gwneud lle i “lywodraeth uchelgeisiol, fywiog a deinamig”.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr fod llais yr Alban yn cael ei glywed yn glir ac yn uchel,” meddai Nicola Sturgeon.

“Mae’r etholiad cyffredinol hwn o bwys gwirioneddol i ddyfodol ein gwlad. Fe fydd yn penderfynu p’un ai ydi’r Alban yn mynd yn ei blaid, neu’n cael ei llusgo am yn ol gan y Toriaid.

“Fe fydd yn gwneud yn siwr fod y penderfyniadau am ddyfodol ein gwlad yn cael eu gwneud yma yn Senedd yr Alban gan bobol yr Alban, ac nid gan lywodraeth Geidwadol, gynyddol asgell dde yn San Steffan.”