Huw Marshall
Mae cyn-bennaeth digidol S4C wedi cael ei ddewis i sefyll dros Blaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8 yn etholaeth Ogwr.

Dywedodd Huw Marshall wrth golwg360 ei fod eisiau defnyddio ei arbenigedd yn y maes digidol i helpu economi digidol Ogwr.

“Mae’r poblogaethau a phentrefi [yn yr etholaeth] wedi tyfu o achos y diwydiant glo a’r diwydiant dur. Mae’r diwydiannau hynny wedi mynd,” meddai.

“Mae pobol yn dueddol rŵan i deithio o’r etholaeth i Ben-y-bont ac Abertawe a Chaerdydd so dw i eisiau gweld rŵan sut rydan ni’n medru datblygu economi newydd a bod pobol yn cael swyddi da a bod pobol yn medru byw a gweithio yn yr etholaeth.”

Ac mae’r ymgynghorydd digidol, a wnaeth sefyll dros Blaid Cymru yng Nghanol Caerdydd yn etholiad 1992, yn dweud y gall y Gymraeg fod yn fantais i Gymru yn yr economi digidol.

“Un o’r negeseuon y bydda i’n rhoi drosodd yn glir yn yr ymgyrch yma ydy’r ffaith, yn enwedig mewn economi rhyngwladol digidol, ein bod ni’n wlad ddwyieithog a bod gennym ni sgil penodol o ran dwyieithrwydd sy’n ein galluogi ni i ryngwladoli cynnwys.

“Mae’n rhoi Cymru mewn sefyllfa unigryw, mae’r economi digidol rhyngwladol yn werth biliynau ac mae cyfle i ni dapio i mewn i hynna.

“Dyfodol disglair i Gymru ydy datblygu economi newydd achos yn amlwg, mae’n rhaid i ni ddechrau creu mwy o gyfoeth a mwy o werth o fewn Cymru ac mae’r farchnad ddigidol ryngwladol yna yn un amlwg.”

Mentrau ar-lein

Sefydlodd Huw Marshall Yr Awr Gymraeg, cyfrif Twitter poblogaidd gyda dros 8,000 o ddilynwyr, yn 2012 i hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau busnesau a sefydliadau.

Y bwriad yw ehangu’r fenter, gydag ymgyrchoedd codi arian i gyflogi rhywun i weithio’n rhan amser er mwyn ei chynnal.

“Mae’r Awr Gymraeg yn rhywbeth wnes i ddechrau yn 2012 ac mae wedi datblygu i fod yn llwyfan llwyddiannus iawn, yr unig broblem efo fo yw ei fod wedi troi i fod yn rhywbeth sydd mor llwyddiannus. Mae’n golygu wedyn bod angen amser i redeg a’i reoli fo.”

Huw Marshall sydd y tu ôl i gyfrif Twitter Bolycs Cymraeg hefyd, er nad yw’n hoff o hyrwyddo hynny.

“Mae pobol yn ymwybodol mai fi yw hwnna ond dw i ddim yn hyrwyddo hynny achos yn amlwg, mae’n rhan o hwyl y cyfrif yna bod yna elfen o ddirgelwch.”

Sefydlodd y cyfrif er mwyn “creu hiwmor tafod yn y boch a dangos i bobol bod yna modd creu cyfrifon poblogaidd yn y Gymraeg.”

“Mae ‘na bron i 20,000 o bobol yn hoffi hwnna rŵan ar Facebook, mae bron i 6,000 yn dilyn ar Instagram a bron i 9,000 yn dilyn ar Twitter.”