Mae’r Ceidwadwyr am gipio saith o seddi’r SNP yn yr etholiad cyffredinol, yn ôl y pôl piniwn diweddaraf.

Mae’r arolwg barn ar gyfer The Times Scotland yn awgrymu y bydd yr SNP yn dal eu gafael mewn 47 sedd, y Torïaid yn cynyddu o un sedd i wyth, y Lib Dems efo tri a’r Blaid Lafur yn aros yn ei hunfan gyda dim ond un Aelod Seneddol yn yr Alban.

Ymysg yr etholaethau SNP fydd yn syrthio i ddwylo’r Ceidwadwyr, yn ôl yr arolwg, mae Moray, sedd sy’n cael ei dal gan Angus Robertson, Dirprwy Arweinydd yr SNP.

Pe bai’r Ceidwadwyr yn ennill wyth o seddi yn yr Alban, dyma fyddai eu canlyniad gorau ers etholiad 1992 pan enillon nhw 11.

Yn dilyn etholiad 1997 doedd ganddyn nhw’r un AS yn yr Alban.

Ar hyn o bryd David Mundell yw unig Aelod Seneddol y Ceidwadwyr yn yr Alban.

Eu prif neges cyn yr etholiad yw eu bod yn gwrthwynebu cais yr SNP i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Fe gafodd dros 1,000 o bobol eu holi ar gyfer y pôl piniwn, a gafodd ei gynnal rhwng Ebrill 24-27.

Roedd 41% yn cefnogi’r SNP, 28% am bleidleisio i’r Ceidwadwyr, Llafur ar 18%, Lib Dems ar 7%, Gwyrddion ar 3% ac UKIP ar 2%.