Mae nifer yr achosion o drais yng ngharchardai Cymru a Lloegr, wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed. Ac mae nifer yr achosion o hunan anafu hefyd ar gynnydd.

– Yn ôl ystadegau y Weinyddiaeth Gyfiawnder a gafodd eu cyhoeddi heddiw, fe fu bron i 26,000 o ymosodiadau yn ystod y flwyddyn 2016-17 – 70 achos y dydd, ar gyfartaledd;

– Mae nifer yr ymosodiadau ar aelodau o staff wedi cynyddu o bron i 40% i 6,844;

– Mae nifer y marwolaethau yn y carchar wedi cynyddu i 344 yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth eleni;

– Hefyd ar gynnydd y mae nifer yr ymosodiadau difrifol ar staff carchardai, gyda’r nifer yn treblu rhwng 2012 a 2016.