Eluned Parrott
Mae cyn-Aelod Cynulliad Canol Caerdydd wedi’i dewis i gynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn yr etholaeth ar gyfer etholiad cyffredinol mis Mehefin.

Mae etholaeth Canol Caerdydd yn un o’r seddi y mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn eu llygadu ar gyfer yr etholiad brys.

Fe gafodd Eluned Parrott ei dewis wedi iddi fod yn Aelod Cynulliad i’r etholaeth rhwng 2011 a 2016, gan golli ei sedd y llynedd i Jenny Rathbone o’r Blaid Lafur.

Brexit wedi ‘newid popeth’

 

“Doeddwn i ddim wedi bwriadu dod yn ôl i wleidyddiaeth, ond mae Brexit wedi newid popeth,” meddai Eluned Parrott.

 

“Dw i eisiau cynrychioli Canol Caerdydd yn y Senedd i frwydro yn erbyn Brexit Caled ymrannol Theresa May, a hynny dros y mwyafrif yma wnaeth bleidleisio i aros ac i’r nifer wnaeth bleidleisio i adael ond am aros yn y Farchnad Sengl.”

Roedd 60% wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yng Nghaerdydd adeg y refferendwm y llynedd.
Ac mae Eluned Parrott yn cyhuddo’r Blaid Lafur dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn o beidio â rhoi “gwrthwynebiad go iawn” i’r Ceidwadwyr yn Llywodraeth Prydain.