Athro Roger Scully
Fe allai cwymp y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol Mehefin 8 fod yn beryglus i ddatganoli yng Nghymru, yn ol sylwebydd gwleidyddol amlwg.
Mae’r Athro Roger Scully yn dweud wrth golwg360 y gallai etholiad cyffredinol gwael i Lafur eleni greu problemau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan.
“Os oes dal gennym ni Lywodraeth Lafur, ond dim llawer mwy na lwmp o’r blaid yn San Steffan, efallai y bydd Theresa May a’r Llywodraeth yn Llundain yn dweud ‘does dim angen i ni wrando ar Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru, efallai does dim angen i ni roi unrhyw beth iddyn nhw ar ddatganoli,” meddai Roger Scully.
“Dw i’n meddwl y gallai greu sefyllfa lle fydd goblygiadau mawr iawn i ddatganoli.”
Colli saith sedd yng Nghymru?
Roedd y gwyddonydd gwleidyddol, sy’n Gyfarwyddwr ar Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn dweud bod posibilrwydd y gall y blaid golli hyd at saith o seddi yng Nghymru.
“Mae Llafur wedi dod yn gyntaf ymhob etholiad cyffredinol yng Nghymru ers 1992 ac mae wedi ennill y mwyafrif o seddi ymhob etholiad ers y Rhyfel Byd.
“Ond os ydych chi’n edrych ar ragolygon yr uniform national swing a’r arolygon dros Brydain, bydd Llafur yn colli llawer o seddi yng Nghymru.”
Gall y rhain fod yn Delyn, De Clwyd, Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr a fydd yn debygol o fynd at y Ceidwadwyr a gall Plaid Cymru gipio Ynys Môn meddai.
Dyw seddi eraill ddim yn saff o fachau’r Ceidwadwyr chwaith, meddai, yn Abertawe nac yng Nghasnewydd.
“Mae’n bosibilrwydd yn bendant y bydd y blaid yn ennill llai na hanner o’r seddi yng Nghymru. Mae pethau’n edrych yn anodd iawn iddyn nhw ar hyn o bryd.
“Dw i ddim yn disgwyl gweld wipe-out o’r Blaid Lafur yng Nghymru fel y gwelsom ni gyda’r Torïaid yn 1997 ond mae’n bosibilrwydd y byddwn ni’n gweld nhw’n colli seddi dydyn ni heb weld yng Nghymru ers 1983 o leiaf, efallai ers etholiad 1931.
“Am bron canrif, mae Llafur wedi bod y brif blaid mewn gwleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru ac efallai bydd y cyfnod hwnnw’n dod i ben. Bydd hwn yn rhywbeth hanesyddol yn bendant.”
Dim gobaith o ddylanwadu
Ychwanegodd na fydd gan Gymru llawer o obaith o gael dylanwad ar yr etholiad yn ystod y saith wythnos nesaf o ymgyrchu.
“Dw i’n meddwl y bydd Cymru’n battle-ground yn yr etholiad, dw i ddim yn meddwl y bydd hi’n bwnc yn yr etholiad.”
Mae’n debyg bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi paratoi rhywfaint at etholiad cyffredinol drwy ddewis 400 o ymgeiswyr yn barod yn ei brwydr i wneud cym-bac gwleidyddol.
Ond a yw’r brys i ddod o hyd i ymgeiswyr ar gyfer pob sedd yng Nghymru yn debygol o arwain at safon is o gynrychiolaeth?
Yn ôl yr Athro Roger Scully, dyw’r sefyllfa ddim yn ddelfrydol i ddim un blaid a gall arwain at rai ymgeiswyr is eu safon yn cael eu dewis.