Sion Jones, cynghorydd Llafur tros Bethel ger Caernarfon ar Gyngor Gwynedd
Mae cynghorydd Llafur pentref Bethel ger Caernarfon, wedi datgan na fydd o’n herio’r Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams, am sedd Arfon yn San Steffan yn yr etholiad brys eleni.

Heddiw, ar ei dudalen Facebook, mae Sion Jones yn dweud yn glir nad oes ganddo fwriad sefyll yn etholiad cyffredinol Mehefin 8, er iddo geisio am y sedd yn etholiadau’r cynulliad yn 2016.

“Dw i yn rhoi addewid,” meddai, “i orffen y gwaith a’r prosiectau yn Bethel yn llawn amser am y pum mlynedd nesaf.”

Fe fydd yn ceisio cael ei ail-ethol yn gynghorydd sir Bethel yn yr etholiadau lleol ar Fai 4.