Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymateb yn gadarn i gyhoeddiad Theresa May ei bod yn dymuno cynnal Etholiad Cyffredinol brys ar Fehefin 8.

Yn ol Carwyn Jones, fe enillodd y blaid Lafur yng Nghymru etholiad 2016 ar sail ei “record gref o arweinyddiaeth a delifro”.

“Byddwn yn wynebu ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol eleni o safbwynt o gryfder, gan gynnig opsiwn nodweddiadol a dyfeisgar i bobol Cymru”.

Fe fydd Theresa May yfory (ddydd Mercher) yn gofyn i Aelodau Seneddol yn San Steffan bleidleisio o blaid ei chynnig i fynd i’r pol ar Fehefin 8. Fe fydd hi angen cefnogaeth dwy ran o dair o’r ASau.