O wefan SCER
Fe fydd pleidleiswyr yr Alban yn gwybod pa ddewis sydd o’u blaenau nhw, os bydd refferendwm annibyniaeth yng ngwanwyn 2019.

Dyna’r farn mewn adroddiad gan gorff ymchwil annibynnol, sy’n dweud y bydd dewis clir rhwng dau ateb pendant.

“Fydd e ddim yn adeg i osgoi’r dewis,” meddai Kirsty Hughes, cyfarwyddwraig y Ganolfan Albanaidd ar Berthnasau Ewropeaidd, SCER, wrth roi cipolwg ar beth fydd yn y fantol.

Argyfwng

Mae adroddiad ganddi’n awgrymu y gallai un o’r dewisiadau olygu bod y refferendwm ynghanol argyfwng economaidd a gwleidyddol – pe bai’r Deyrnas Unedig wedi methu â chael cytyndeb masnachu gyda’r 27 aelod fydd ar ôl yn yr Undeb.

“Byddai rhai yn dadlau bod angen gohirio’r ail refferendwm annibynnol nes bod yr argyfwng wedi ei ddatrys,” meddai.

“Ond fe fyddai’r ochr o blaid annibyniaeth yn debyg o ddadlau bod yr argyfwng yn golygu ei bod yn fwy hanfodol nag erioed i barhau gyda’r refferendwm.”

Fe allai dewisiadau eraill olygu dadleuon manwl rhwng gwahanol gytundebau â’i gilydd, meddai Kirsty Hughes.