Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn bwrgleriaeth o swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Cafodd gwerth £24,000 o offer ei ddwyn rhwng 11 o’r gloch nos Fawrth a 2 o’r gloch, bore Mercher.

Cafodd fan ei gweld yn cyrraedd prif fynedfa’r swyddfeydd cyn i ddau ddyn gael eu gweld yn torri cadwyn ar y gatiau.

Mae lluniau’n dangos y fan yn mynd trwy’r fynedfa ac yn gadael, cyn dychwelyd ychydig oriau’n ddiweddarach.

Offer garddio oedd yr eitemau a gafodd eu dwyn.