”Nicola
”]Mae ymgeisydd Ceidwadol mewn etholiadau lleol yn yr Alban wedi cael ei wahardd o’r blaid am y tro ar ôl cyhoeddi cyfres o negeseuon sarhaus am Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

Mae’r blaid wedi dweud wrth Ken MacBrayne na fydd yn derbyn rhagor o gefnogaeth ganddyn nhw ar ôl i’r sylwadau, oedd hefyd yn sarhau mewnfudwyr a cheiswyr lloches, ddod i’r amlwg.

Fe ddisgrifiodd Nicola Sturgeon fel “cretin bach twp”, gan ofyn “pam na all rhywun wthio proc gwartheg i fyny ei rhannau isaf?”

Mewn neges arall, dywedodd y byddai’n “falch tu hwnt pe bai rhywun yn stwffio pêl golff i geg Nicola Sturgeon, ei dapio a rhoi cwdyn dros ei phen”.

Rhanodd ymgeisydd Cyngor Ynysoedd y Gorllewin yn Benbecula a Gogledd Uist nifer o negeseuon gan Britain First, oedd yn galw am beidio â rhoi budd-daliadau i fewnfudwyr.

Er iddo gael ei wahardd o’r etholiad, bydd ei enw’n ymddangos ar bapurau pleidleisio gan fod y dyddiad cau wedi mynd heibio.

‘Annerbyniol’

Dywedodd llefarydd ar ran Ceidwadwyr yr Alban fod sylwadau Ken MacBrayne yn “gwbwl annerbyniol”, gan ddweud nad yw bellach yn aelod o’r blaid.

Dywedodd llefarydd ar ran yr SNP fod ei sylwadau’n “sarhaus tu hwnt” a’u bod yn “gwbl amhriodol”, yn enwedig yng ngoleuni gwahardd nifer o aelodau Ceidwadol eraill am sylwadau gwrth-Islamaidd.