Alex Salmond (Llun: PA)
Fe fydd ymgyrch Prif Weinidog Prydain, Theresa May i atal yr Alban rhag mynd yn wlad annibynnol yn “rhacs” o fewn dim o dro, yn ôl cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr ar BBC1 fod “newid byd” wedi bod o safbwynt agweddau tuag at yr Alban ers i Brydain benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd yn groes i ddymuniad y rhan fwyaf o Albanwyr.

Pleidleisiodd 62% o Albanwyr o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm.

Ail refferendwm?

Mae Alex Salmond wedi gwrthod dweud a fydd pôl piniwn yn cael ei gynnal cyn mynd ati i gynnal ail refferendwm annibyniaeth, gan ddweud mai mater i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon i’w benderfynu yw hynny.

Ond fe ddywedodd: “Dydy’r llinell yma gan Theresa May – nid nawr yw’r amser – ddim yn mynd i bara.

“Yn y gorffennol, dw i’n cofio David Cameron yn dweud wrtha i nad oedd refferendwm Albanaidd yn mynd i fod ond wnaeth hynny ddim para yn erbyn dymuniadau democrataidd pobol yr Alban a Sendd yr Alban, a fydd llinell Theresa May ddim chwaith.

“Fydd pethau ddim o reidrwydd yn chwalu’n rhacs heddiw neu yfory neu’r wythnos nesaf, ond dros y misoedd i ddod, bydd y llinell honno’n chwalu oherwydd ni all unrhyw Brif Weinidog Prydeinig wrthsefyll dymuniadau democrataidd.”

Yr Undeb Ewropeaidd

Wrth gyfeirio at yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd fod agweddau Ewropeaidd at yr Alban wedi newid ers y refferendwm annibyniaeth yn 2014.

Mae Sbaen – sy’n gwrthwynebu annibyniaeth i Gatalwnia – eisoes wedi dweud na fydden nhw’n gwrthwynebu ymgais gan yr Alban annibynnol i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Alex Salmond fod hynny’n arwydd o “foment arwyddocaol”.

Mae Aelodau Seneddol yr Alban eisoes wedi pleidleisio – o 69 i 59 – o blaid ceisio caniatâd i gynnal ail refferendwm annibyniaeth rhwng hydref 2018 a gwanwyn 2019.

Mae Ceidwadwyr a Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban wedi beirniadu sylwadau Alex Salmond a safbwynt yr SNP.