Mae arlyywdd yr Unol Daleithiau wedi caledu ei agwedd tuag at Syria ac wedi condemnio ymosodiad cemegol ar bobol cyffredin yng ngogledd y wlad.

Yn ôl asesiadau gan yr Unol Daleithiau, cafodd nwy clorin a’r cemegyn sarin eu defnyddio yn ystod yr ymosodiad ar dref Khan Sheikhoun ddydd Mawrth wnaeth lladd dros 80 o bobol.

Nid yw Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi ymhelaethu  ar sut fydd y wlad yn ymateb ond mae’n debyg bod ei “agwedd at Syria ac Assad wedi newid cryn dipyn.”

Mae Twrci ac Israel hefyd wedi cyhuddo Llywodraeth Syria o fod yn gyfrifol, ond mae Rwsia wedi mynnu mai ffrwydrad arfau cemegol y gwrthryfelwyr yn dilyn ymosodiad o’r awyr wnaeth achosi’r trychineb.

Cafodd cyfarfod brys ei gynnal gan y Cenhedloedd Unedig y ddoe lle bu gwleidyddion yn trafod y posibiliad o gynnal ymchwiliad ynglŷn â’r ymosodiad.