Mae Nigel Farage wedi tynnu nyth cacwn yn ei ben yn Senedd Ewrop, trwy gyhuddo ei gyd-aelodau o “ymddwyn fel y maffia” tros amodau Brexit.

Fe gafodd y cyn-arweinydd UKIP ei orchymyn i dynnu ei sylw yn ôl gan lywydd y Senedd, Antonio Tajani o’r Eidal.

Mewn ymateb, ac “o gofio pa mor sensitif ydi gwahanol genhedloedd” fe ddewisodd aralleirio ei sylw a galw’r ASEau yn “gangsters”.

Fe ddigwyddodd hyn wrth i Senedd Ewrop wrando ar nifer o aelodau profiadol yn dadlau na all Prydain fwynhau yr un amodau wrth ymdrin â’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.