Heddiw, fe fydd Aelodau Senedd Ewrop yn pleidleisio ar ganllawiau Prydain wrth iddi baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd Aelodau yn penderfynu ar yr amodau gaiff eu gosod ar y Deyrnas Unedig cyn caiff dêl i adael yr Undeb ei chaniatáu.

Y disgwyl yw bydd Ewrop yn mynnu nad oes ffin ‘galed’ yn cael ei sefydlu rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon a bod disgwyl i’r Deyrnas Unedig dalu costau gwerth £56 biliwn i’r Undeb Ewropeaidd.

Daw’r cyfarfod wedi i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, ddweud y byddai modd i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd deithio i Brydain heb rwystr am gyfnod wedi Brexit.

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi awgrymu na fydd modd i Brydain fod yn rhan o’r farchnad sengl os caiff gweithwyr eu hatal rhag gweithio yn y Deyrnas Unedig.