Fe fydd cerflun yn cael ei osod yn Parliament Square i nodi ymgyrch Millicent Fawcett i ennill y bleidlais i fenywod yng ngwledydd Prydain yn 1866.

Hi yw’r ddynes gyntaf i gael ei hanrhydeddu â cherflun yn y sgwâr, a bydd hi’n hawlio’i lle ochr yn ochr â rhai o fawrion y byd gwleidyddol gan gynnwys Syr Winston Churchill a Nelson Mandela.

Bydd y cerflun hefyd yn rhan ganolog o ddathliadau canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobol 1918, yr oedd hi’n flaenllaw iawn yn yr ymgyrch i’w gyflwyno ac a arweinodd at roi’r bleidlais i fenywod.

‘Ysbrydoliaeth’

Dywedodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May fod “esiampl Millicent Fawcett yn ystod y frwydr tros gydraddoldeb yn parhau i ysbrydoli’r frwydr yn erbyn anghyfiawnderau sy’n parhau hyd heddiw.

“Mae’n iawn ac yn briodol ei bod hi’n cael ei hanrhydeddu yn Parliament Square ochr yn ochr ag arweinwyr a newidiodd ein gwlad.

“Bydd ei cherflun yn ein hatgoffa o’r ffaith mai dim ond os yw’n gweithio i bawb yn y gymdeithas y mae gwleidyddiaeth unrhyw werth.”

Mae Cymdeithas Fawcett wedi croesawu’r newyddion am y “deyrnged briodol”.