eremy Corbyn, arweinydd yr wrthblaid (Llun: PA)
Mewn cyfweliad â glwg360 yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno heddiw, mae Jeremy Corbyn yn mynnu bod Llafur yn wrthblaid effeithiol o dan ei arweiniad.

“Mae yna lawer o bethau lle rydym ni wedi trechu’r Llywodraeth a’u gorfodi i newid cyfeiriad,” meddai.

“Fe wnaethon ni eu trechu nhw ar gredydau treth mewn gwaith, fe wnaethon ni eu trechu nhw ar gyfraniadau treth yswiriant cenedlaethol, fe wnaethom ni eu trechu ar doriadau i’r heddlu, fe wnaethom ni eu trechu nhw pan wnaethon nhw geisio rhedeg system carchardai Saudi Arabia.

“Yn wir, fe wnaethon nhw hyd yn oed roi mwy o arian i wasanaethau iechyd meddwl y llynedd, dw i ddim yn meddwl bod hwnna’n gyd-ddigwyddiad.

“Dw i’n meddwl ei fod yn rhannol o achos y sŵn mawr dw i wedi bod yn ei wneud, ac y bydda’ i o hyd yn ei wneud am y diffyg arian sydd i’n gwasanaethau iechyd meddwl ledled y Deyrnas Unedig.”

Roedd yn ymfalchïo mai Llafur yw’r blaid fwyaf yn Ewrop:

“Rydym wedi tyfu mwy o aelodau na chyfanswm yr holl bleidiau eraill gyda’i gilydd ac rydym yn blaid frwdfrydig sydd am estyn allan i’r gymuned ehangach a datblygu ein polisïau yn unol â hynny,” meddai.

“Mae hynny i gyd yn iach.”

Benthyg a buddsoddi

Yn ei araith yn y gynhadledd, dadleuodd Jeremy Corbyn dros yr angen i fenthyg er mwyn buddsoddi ar gyfer y dyfodol.

“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y Prif Weinidog fy nghyhuddo i ddwywaith o fod eisiau gwneud Prydain yn fethdalwr trwy fenthyg arian i fuddsoddi,” meddai.

“Ond ddylen ni ddim bod ofn dyledion na benthyg.

“Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, wnaeth Llywodraeth Lafur Clement Attlee ddim dweud: ‘O diar, mae dyled yn 250% o GDP – gadewch inni ohirio’r syniadau mawr am berchnogaeth gyhoeddus; Gwasanaeth Iechyd Gwladol, codi tai cyngor neu nawdd cymdeithasol.

“Na. Fe wnaethon nhw adeiladu gwlad i fod yn falch ohoni. Fe wnaethon nhw greu’r sefydliadau sydd wedi gwneud ein gwlad yn decach, yn fwy cyfartal a rhwystro pobl rhag cael eu dal yn ôl.”