Arlene Foster (Llun: PA)
Ychydig iawn o amser sydd ar ôl i Ogledd Iwerddon adfer datganoli yn y wlad, meddai llywodraethau Prydain ac Iwerddon.
Collodd y llywodraeth ei mwyafrif yn yr etholiad brys diweddar a bellach, dim ond tair wythnos sydd ganddyn nhw i ffurfio pwyllgor gwaith.
Ond mae’r ffrae rhwng y DUP a Sinn Fein ynghylch arweinyddiaeth Arlene Foster yn parhau.
Mae Sinn Fein yn mynnu na all arweinydd y DUP barhau’n Brif Weinidog tra bod ymchwiliad i lygredd a chamddefnyddio arian cyhoeddus ar y gweill.
Yr ymchwiliad hwnnw arweiniodd at yr etholiad brys yr wythnos diwethaf.
Ond mae’r DUP wedi taro’n ôl gan ddweud na all Sinn Fein benderfynu pwy sy’n cael ei enwebu i arwain y pwyllgor gwaith newydd.
‘Trafodaethau brys’
Mewn datganiad ar y cyd, mae llywodraethau Prydain ac Iwerddon wedi galw am drafodaethau brys i ddatrys yr anghydfod.
Maen nhw’n dweud bod “amser yn brin”, ac mae cyfrifoldeb ar y ddwy blaid i ddod i gytundeb, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, James Brokenshire.
“Mae angen trafodaethau brys er mwyn sicrhau bod llywodraeth ddatganoledig gynhwysfawr yn parhau.”
Dywedodd Gweinidog Materion Tramor Iwerddon, Charlie Flanagan ei fod yn cytuno â safbwynt Llywodraeth Prydain.
Sinn Fein
Ond mae Sinn Fein yn dweud na fyddan nhw’n cefnogi Arlene Foster pe bai hi’n cael ei henwebu gan y DUP.
Dywedodd y cyn-Weinidog Addysg, John O’Dowd: “Roedden ni’n eglur iawn ar stepen y drws, roedden ni’n eglur iawn yn ystod yr etholiad ac mae gennym fandad, ac fe ddywedon ni wrth bobol na fydden ni’n cefnogi Arlene Foster fel cyd-Brif Weinidog cyn i adroddiad RHI gael ei gyhoeddi.”
Ynni gwyrdd dan y lach
Daeth y Cynulliad diwethaf i ben ar ôl i’r cyn-Ddirprwy Brif Weinidog ymddiswyddo, ar ôl i Arlene Foster wrthod camu o’r neilltu tra bod ymchwiliad ar y gweill.
Hyd yn hyn, mae’r fenter ynni gwyrdd ddadleuol sy’n destun ymchwiliad wedi costio £490 miliwn i’r trethdalwyr.
Gallai chwe mis fynd heibio cyn i gasgliadau’r ymchwiliad gael eu cyhoeddi.