Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cyhuddo ei ragflaenydd o recordio ei alwadau ffôn yn ystod yr ymgyrch cyn etholiad mis Tachwedd diwetha’.

Mewn cyfres o negeseuon Twitter, mae Donald Trump yn dweud ei fod newydd ddarganfod fod Barack Obama wedi bod yn “tapio” ei linellau yn Trump Tower “jyst cyn y fuddugoliaeth”.

Mewn neges arall, ychwanegodd Donald Trump: “Ydi hi’n gyfreithlon i Arlywydd i fod yn gwrando ar alwadau yn ystod ras am arlywyddiaeth ei wlad? Pa mor isel aeth Arlywydd Obama yn ystod proses sanctaidd yr etholiad? Mae hyn fel Nixon/Watergate.”

Dydi Donald Trump ddim wedi egluro pa dystiolaeth sydd y tu ol i’w honiadau yn erbyn Barack Obama, a dydi swyddfa Barack Obama ddim wedi ymateb.