Bethan Jenkins AC
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi beirniadu’r ffaith y bydd cyd-Aelod iddi’n cael annerch Cynhadledd Wanwyn heddiw, ddiwrnod wedi iddo gael ei wahardd o fod yn gynghorydd.

Ar wefan gymdeithasol Twitter, mae Bethan Jenkins, AC Gorllewin De Cymru, yn condemnio’r ffaith y bydd Neil McEvoy yn traddodi araith i’r gynhadledd yng Nghasnewydd.

Ddoe, fe gafodd ei wahardd am fis rhag gweithredu fel cynghorydd ar Gyngor Caerdydd gan Banel Dyfarnu Cymru, a hynny am iddo “fwlian” aelod o staff y Cyngor yn 2015.

“Ni ddylai’r Arweinyddiaeth ganiatau i rywun siarad heddiw, yn dilyn y canlyniad hwn,” meddai Bethan Jenkins. “Allwn ni ddim condemnio ymddygiad fel hyn, ac yna ei anwybyddu o fewn ein rhengoedd ein hunain.”

Ac mewn neges fer wedyn, meddai: “Os nad oes neb arall yn fodlon ei ddweud e, fe wna’ i” gan ddefnyddio’r hashnod #notosilence.

Y cefndir 

Fe ddyfarnodd y tribiwnlys bod Neil McEvoy wedi bwlio’r aelod staff, Deborah Carter, trwy fygwth diogelwch ei swydd. Ond nid oedd wedi dwyn anfri ar Gyngor Caerdydd, yn ôl y panel.

Mae Neil McEvoy bellach wedi cyhoeddi datganiad yn ymateb i ddyfarniad y tribiwnlys gan gyfeirio at yr achos fel ‘show trial’ gan y Blaid Lafur.

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud y bydd hi’n ystyried dyfarniad y panel disgyblu cyn penderfynu beth i’w wneud gyda Neil McEvoy.

“Anesgusodol”

Mae ymgeisydd Plaid Cymru, Essex Harvard, oedd am sefyll yn etholiadau lleol mis Mai wedi penderfynu tynnu ei enw yn ôl,  gan nad yw’n medru “goddef y syniad” o fod yn yr un grŵp a Neil McEvoy yng Nghyngor Caerdydd.

Wrth ysgrifennu ar ei flog dywedodd yr ymgeisydd  a gafodd ei ddewis i sefyll yn ward Gogledd Llandaf bod anallu Neil McEvoy i ymddiheuro yn “anesgusodol” ac mae’n cyfeirio at y gwleidydd fel “bwli.”

“Rwyf newydd dynnu allan gan nad wyf yn medru goddef y syniad o fod yn rhan o’r un grŵp (os fyddwn yn cael fy ethol) â bwli pwerus, a bwli menywod gyda llaw (mae hyn wedi ei brofi gan Banel Dyfarnu Cymru).”

“Os fyddwn yn euog o fwlio, mi fyddwn yn ymddiheuro ac yn ceisio sicrhau nad yw’ digwydd eto. Yn yr achos yr wyf wedi cyfeirio ato, mae’r dyn dan sylw o hyd heb ymddiheuro. I mi, mae hyn yn anesgusodol.”