Stormont (Robert Paul Young CCA 2.0)
Mae’r cyfri’n dechrau ar bleidleisiau yn etholiadau cyffredinol brys Gogledd Iwerddon, gyda sôn am lefel uchel o bleidleisio.

Yn ôl sylwebwyr lleol, mae’r frwydr wedi bod yn un ffyrnig ar ôl chwalfa’r llywodraeth ar y cyd rhwng plaid Unoliaethol y DUP a chenedlaetholwyr Sinn Fein.

Os nhw fydd y ddwy brif blaid unwaith eto, y disgwyl yw y bydd hi’n anodd iawn cael cytundeb rhyngddyn nhw i greu llywodraeth newydd.

Ond mae rhai sylwebyddion yn awgrymu y gallai’r DUP golli tir ac fe allai hynny arwain at argyfwng newydd i’r Unoliaethwyr.

Fe fyddai methu â chael cytundeb rhwng y ddwy ochr yn arwain at gyfnod hir pan fydd Llywodraeth San Steffan yn llywodraethu Gogledd Iwerddon.

Anghydfod yn achosi’r etholiadau

Fe gafodd yr etholiadau eu galw ar ôl i’r bartneriaeth ffurfiol rhwng y DUP a Sinn Fein chwalu, ar ôl cyfnod o anniddigrwydd cynyddol rhwng y ddwy, a hynny lai na blwyddyn ers yr etholiadau diwetha’.

Y prif sbardun oedd anghydfod tros arian gynllun ynni gwyrdd – mae Sinn Fein wedi mynnu bod rhaid i arweinydd y DUP, Arlene Foster, gamu o’r neilltu tra bydd ymchwiliad i’r helynt a allai gostio cannoedd o filiynau o arian cyhoeddus.

Mae hi wedi gwrthod gwneud hynny ac mae’r anghydfod yn cael ei weld yn arwydd o anghydfod dyfnach.

Roedd penderfyniad y DUP i dorri gwario ar yr iaith Wyddeleg hefyd yn ffactor, gyda Sinn Fein yn cyhuddo’r DUP o “ddiffyg parch”.

Dyfalu am newid

Un elfen a allai effeithio ar y canlyniad yw fod nifer y seddi yn senedd Stormont wedi ei dorri o 108 i 90, ac fe allai hynny effeithio ar ddosbarthiad seddi hefyd.

Mae disgwyl y bydd Sinn Fein yn cynnal ei phleidlais ond y dyfalu yw y gallai’r DUP golli peth tir i’r brif blaid Unoliaethol arall yr UUP.

Pe bai hynny’n digwydd, fe fyddai pwysau ar Arlene Foster i ymddiswyddo … y cwestiwn wedyn yw a fyddai hynny’n arwain at well perthynas gyda Sinn Fein gan achub y llywodraeth ddatganoledig.

Pe bai’r bleidlais Unoliaethol yn cael ei rhannu’n weddol gyfartal, fe allai Sinn Fein orffen yn blaid fwya’r dalaith a chael yr hawl i ffurfio llywodraeth.