Mae’n bosib y bydd aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn pleidleisio o blaid newid mesur Brexit Llywodraeth y Deyrnas Unedig y prynhawn yma.

Fe fydd arglwyddi yn pleidleisio ar sail newid i’r mesur cafodd ei gyflwyno gan y blaid Lafur sydd yn galw am ddiogelu statws dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd yn byw yng ngwledydd Prydain wedi Brexit.

Mae gweinidogion wedi wynebu beirniadaeth am drin dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig fel gwystl i’w bargeinio yn nhrafodaethau Brexit sydd i ddod.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi danfon llythyr i bob Arglwydd yn eu hannog i beidio â newid y mesur gan fynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig am drin pobol o’r Undeb Ewropeaidd â pharch.

Nid oes gan y Ceidwadwyr fwyafrif yn Nhŷ’r Arglwyddi ac os fydd y newid yn cael ei phasio bydd gan weinidogion yr opsiwn o’i ddiddymu yn Nhŷ Cyffredin.