Mae John McDonnell ymhlith y rhai sy'n galw am ymddiheuriad (Llun: PA)
Mae galw ar bennaeth polisi Prif Weinidog Prydain Theresa May, i ymddiheuro yn dilyn sylwadau sarhaus am daliadau PIP i bobol ag anableddau.

Dywedodd George Freeman y dylai’r budd-dal fynd i “bobol anabl iawn” yn hytrach nag i’r “rhai sy’n dioddef o bryder”.

Dywedodd fod angen diwygio’r drefn sy’n gosod pobol â salwch meddwl sy’n methu teithio’n annibynnol yn yr un categori â phobol ddall.

Mae tribiwnlys hefyd wedi dod i’r casgliad y dylid trin pobol sydd angen cymorth i gymryd moddion yn yr un categori â phobol sy’n gyfrifol am eu dialysis eu hunain yn y cartref.

Dywedodd y gweinidog anableddau, Penny Mordaunt ei bod hi’n diwygio’r drefn er mwyn “adfer amcanion gwreiddiol y budd-dal”, sef rhoi cymorth i’r bobol fwyaf anghennus.

Dywedodd na fyddai unrhyw un sydd eisoes yn derbyn PIP yn colli arian o dan y drefn newydd.

Ond yn ôl y Blaid Lafur, fe fydd 160,000 o bobol ar eu colled.

‘Penderfyniad cywir’

Dywedodd George Freeman wrth raglen Pienaar’s Politics ar Radio 5 Live: “Bwriad y tocio hyn yw gwyrdroi penderfyniadau rhyfedd gan dribiwnlysoedd sy’n golygu bellach fod budd-daliadau’n cael eu rhoi i bobol sy’n cymryd tabledi gartref ac sy’n dioddef o bryder.

“Ry’n ni am sicrhau bod yr arian yn mynd i’r bobol fwyaf anabl sydd ei angen.”

Er ei sylwadau, mae George Freeman yn mynnu ei fod yn “deall pryder yn llwyr”, a bod camau wedi’u hamlinellu mewn strategaeth iechyd meddwl.

‘Sarhad’

Yn ôl canghellor yr wrthblaid, John McDonell, mae’r sylwadau’n “sarhad i bobol ag anableddau”, ac fe alwodd am ymddiheuriad.

Ychwanegodd y byddai’r blaid yn rhoi pwysau ar y Canghellor Philip Hammond i wyrdroi’r newidiadau yn y Gyllideb fis nesaf.

Dywedodd yr aelod seneddol Llafur, Louise Haigh ar Twitter fod y “Torïaid yn y gwter yn ceisio dwyn gwarth ar y rhai sy’n anghennus”.