Mae Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin yn brolio eu bod nhw yn gyfrifol am un o’r codiadau treth cyngor isaf yng Nghymru.

I drigolion Sir Gâr, bydd y dreth yn codi 2.5% eleni, dan arweiniad Plaid Cymru sy’n rhedeg y cyngor sir mewn clymblaid â’r Annibynwyr.

Yn ôl y Blaid yn lleol mae hyn yn hanner y cynnydd yn y dreth bu dwy flynedd yn ôl pan oedd y Blaid Lafur yn rheoli’r cyngor.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb y Blaid Lafur yn lleol.

“Gwrando ar y bobol”

Mae Plaid Cymru yn mynnu ei bod wedi llwyddo i gadw gwasanaethau hanfodol  yn ystod cyfnod anodd yn ariannol i gynghorau sir a chadw’r codiad yn y dreth yn unol â graddfa chwyddiant ar gyfer 2017-2018.

“Fe wnaethom ymgynghori’n eang a gosod ein cyllideb ar ôl gwrando ar y bobl,” meddai’r Cynghorydd Dai Jenkins, Dirprwy Arweinydd y cyngor sydd â chyfrifoldeb am gyllid.

Cafodd cynnig gan yr wrthblaid Lafur i godi’r dreth 4.5% ei drechu yng nghyfarfod misol y cyngor sir, meddai Plaid Cymru.

“Fe wnaeth y rhan fwyaf o’r bobl a ymatebodd i’r ymgynghoriad ddweud bod 2.5% yn dderbyniol,” meddai Arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole.

“Mae cynnig Llafur i droi’r cloc yn ôl dwy flynedd trwy ofyn am godiad treth o 4.5% yn dangos yn glir nad ydynt yn gwrando ar bobl Sir Gaerfyrddin.”

Y darlun ar draws Cymru… hyd yma – mae rhai cynghorau eto i benderfynu ar lefel terfynol y codiad yn eu treth

Sir Benfro 5%

Powys 4.5%

Ynys Môn 2.5%
Blaenau Gwent
Pen-y-bont ar Ogwr 2.9%
Caerffili 1%
Caerdydd 3.7%
Sir Gaerfyrddin 2.5%
Ceredigion
Conwy 4.22%
Sir Ddinbych 2.94%
Sir y Fflint 3.55%
Gwynedd 2.8%
Merthyr Tudful 3.5%
Sir Fynwy 3.95%
Castell-nedd Port Talbot 2.5% (wedi’i osod)
Casnewydd
Rhondda Cynon Taf 2.5%
Abertawe 2.75%
Torfaen 3.7%
Bro Morgannwg
Wrecsam