Alun Cairns
Eleni, am y tro cyntaf erioed, fe fydd hi’n bosib i Aelodau Seneddol siarad Cymraeg yn ystod dadleuon yn San Steffan.

Fe ddaeth cadarnhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd Aelodau Seneddol yn cael siarad Cymraeg pan fydd yr Uwch Bwyllgor Cymreig yn cyfarfod. Ar hyn o bryd, dim ond yn ystod cyfarfodydd a gwrandawiadau’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig y caiff ASau siarad Cymraeg.

Bydd gwneud trafodaethau’r Uwch Bwyllgor Cymreig yn ddwyieithog yn golygu bydd modd trafod, craffu ar ddeddfwriaeth a holi gweinidogion trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd costau’r gwasanaethau cyfieithu yn cael eu hysgwyddo gan gronfa sy’n bod eisoes, gan olygu na fydd cost ychwanegol i’r trethdalwr.

Hyrwyddo’r Iaith

“Mae’n hynod o bwysig bod pobol Cymru yn medru clywed trafodaethau yn y ddwy iaith,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

“Gobeithiaf fydd Aelodau Seneddol sydd yn medru’r Gymraeg yn dewis defnyddio’r gwasanaeth yma er mwyn hyrwyddo’r iaith yn y Senedd.”