Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae Theresa May wedi rhybuddio Aelodau Seneddol Ceidwadol y byddan nhw’n “rhwystro” ewyllys y bobol os ydyn nhw’n pleidleisio gyda Llafur a’r SNP i newid Mesur Brexit.

Dywedodd y Prif Weinidog bod Tŷ’r Cyffredin eisoes wedi pleidleisio o blaid Mesur yr Undeb Ewropeaidd a fydd yn ei chaniatáu i danio Erthygl 50 er mwyn dechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Mesur yn dychwelyd i Dy’r Cyffredin heddiw ar gyfer tridiau o drafodaethau ychwanegol gan roi’r cyfle i Aelodau Seneddol gyflwyno newidiadau i’r ddeddfwriaeth.

Mae Ceidwadwyr sydd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd eisiau sicrhad y bydd y Senedd yn cael penderfynu beth fydd yn digwydd os yw trafodaethau Brexit yn methu heb ddod i gytundeb gyda’r 27 gwlad arall sy’n aelodau o’r Undeb.

Mae rhai o aelodau meinciau cefn y blaid yn bryderus ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd os nad oes cytundeb, gan ddweud y gallai gael effaith andwyol ar yr economi.

Ond mae Theresa May wedi rhybuddio nad dyma’r amser i “rwystro ewyllys pobol gwledydd Prydain.”