Gallai unigolion o’r Blaid Geidwadol ymuno ag unigolion o’r Blaid Lafur a’r SNP i sicrhau gwelliannau i Fesur Brexit oni bai bod y Senedd gyfan yn cael dweud ei dweud ar y trafodaethau terfynol i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Ceidwadwyr oedd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn rhybuddio y gallai agwedd Prif Weinidog Prydain, Theresa May olygu bod Prydain yn “cwympo oddi ar glogwyn” wrth iddi ddweud bod “dim cytundeb yn well na chytundeb gwael”.

Ar hyn o bryd, mae aelodau seneddol yn gofidio na fydden nhw’n gallu gorfodi rhagor o drafodaethau pe baen nhw’n anfodlon ar ddiwedd y broses.

Mae lle i gredu y gallai hyd at 27 o aelodau seneddol Ceidwadol wrthdystio.

‘Dwyn perswâd’

Dywedodd yr Aelod Seneddol Neil Carmichel yn y Mail on Sunday: “Dw i’n gobeithio dwyn perswâd ar y Llywodraeth i fynd i’r afael â’n pryderon yr wythnos hon cyn i Fesur Brexit gael ei gwblhau.”

Fe fydd tridiau o drafodaethau ar gynnwys y Mesur yn dechrau ddydd Llun.

Fe fydd yn gyfle i aelodau seneddol addasu’r cynnwys ar ôl yr ail ddarlleniad yr wythnos diwethaf.

Bydd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow yn penderfynu ddydd Llun pa welliannau fydd yn cael eu derbyn.

Cymal 50

Yn y cyfamser, mae llefarydd tramor y Blaid Lafur, Emily Thornberry wedi dweud na fyddai ei phlaid yn ceisio atal gweithredu Cymal 50, hyd yn oed pe bai gwelliannau’r blaid yn cael eu gwrthod.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Ry’n ni wedi dweud na fyddwn ni’n creu rhwystredigaeth o ran Brexit.

“Ry’n ni wedi cael cyfarwyddyd gan bobol Prydain. Ry’n ni’n ddemocratiaid ac mae’r cyhoedd wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Fe fydd trafodaethau yr wythnos nesaf. Mae nifer o ffyrdd i’r Llywodraeth ymateb i hyn a fydd yn bositif.

“Fe fydd angen ffyrdd o gyfathrebu, sgyrsiau preifat. Mae nifer o sgyrsiau’n digwydd ar hyn o bryd.

“Ry’n ni’n siarad â’r Llywodraeth, ry’n ni’n siarad â Cheidwadwyr y meinciau cefn ac ry’n ni’n ceisio cyfaddawd a fydd yn llwyddo.”

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn gorfodi aelodau i bleidleisio’n unfrydol.

Mae Diane Abbott eisoes wedi cael ei beirniadu am fod yn absennol yr wythnos diwethaf yn ystod yr ail ddarlleniad, gan ddweud ei bod yn dioddef o feigryn.