Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Ni fydd gwaharddiad dadleuol Donald Trump yn effeithio pobol sydd â phasbort Prydeinig, meddai Boris Johnson wrth iddo wneud datganiad yn y Senedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor wrth Aelodau Seneddol bod “croeso o hyd” i Brydeinwyr i deithio i’r Unol Daleithiau a bod llysgenhadaeth y wlad yn Llundain wedi cadarnhau na fydd gorchymyn yr Arlywydd Trump yn gwneud “unrhyw wahaniaeth” i bobol sydd â phasbort Prydeinig.

Ychwanegodd: “Nid ein polisi ni yw hyn, ac nid yw’n fesur y byddai’r Llywodraeth hon yn ei ystyried. Rwyf eisoes wedi ei gwneud yn glir bod gennym bryderon am fesurau sy’n gwahaniaethu ar sail cenedlaetholdeb mewn modd sy’n achosi rhwygiadau ac yn anghywir.”

Mae ffynonellau o fewn y Swyddfa Dramor wedi awgrymu bod y Deyrnas Unedig wedi sicrhau “cytundeb arbennig”.

Roedd llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau wedi awgrymu’n gynharach na ddylai dinasyddion y Deyrnas Unedig oedd a chenedlaetholdeb deuol o un o’r saith gwlad sy’n rhan o’r gwaharddiad dros dro – Irac, Iran, Libanus, Somalia, Sudan, Syria ac Yemen – wneud cais am fisa.

‘Dadleuol iawn’

Mae Boris Johnson wedi cyfaddef bod polisi America yn “ddadleuol iawn” ond fe bwysleisiodd “bwysigrwydd hanfodol” y cydweithio rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig.

Ond cafodd ei feirniadu gan ASau’r gwrthbleidiau am fethu ag ymateb yn fwy cadarn i waharddiad Donald Trump.

Yn y cyfamser mae Rhif 10 wedi mynnu bod Theresa May yn “hapus iawn” i wahodd Donald Trump ar ymweliad gwladol, a hynny er gwaetha’ deiseb sydd ag 1.3 miliwn o enwau arni yn gwrthwynebu’r ymweliad.

Mae Downing Street hefyd wedi gwadu ei fod wedi ceisio “beio’r” Swyddfa Dramor am amseriad y gwahoddiad i Donald Trump, yn dilyn beirniadaeth ei fod wedi ei wahodd yn rhy fuan ar ôl iddo ddod yn Arlywydd.