Nicola Sturgeon Llun: PA
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi rhybuddio bod “dyfodol gwahanol” i’r Alban yn “fwy tebygol” yn dilyn cyhoeddiad Theresa May heddiw am ei chynllun ar gyfer Prydain tu allan i Ewrop.

Mewn araith yn Llundain heddiw dywedodd Theresa May y byddai Prydain yn gadael y farchnad sengl fel rhan o’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Ni all Llywodraeth y Deyrnas Unedig dynnu ni allan o’r Undeb Ewropeaidd a’r Farchnad Sengl … heb fod yr Alban yn cael dewis rhwng hynna a dyfodol gwahanol,” dywedodd Nicola Sturgeon.

Ychwanegodd bod sylwadau’r Prif Weinidog heddiw wedi “llwyddo i wneud y penderfyniad yna yn fwy tebygol.”

Cynllun arall

Cyfeiriodd Nicola Sturgeon at ei chynllun lle fyddai modd i’r Alban aros yn rhan o’r farchnad sengl heb fod gweddill y Deyrnas Unedig yn aelodau, gan alw am “ystyriaeth ddifrifol”.

“Er bod trafodaethau ynglŷn â’r cynigion yn parhau rydyn ni o hyd heb weld unrhyw dystiolaeth bod llais yr Alban yn cael ei glywed a bod ein diddordebau yn cael eu hystyried.”

Fe wnaeth y gwleidydd SNP hefyd fynegi pryder am “obsesiwn asgell dde” y Llywodraeth gan leisio’r farn mai ideoleg oedd yn gyfrifol am benderfyniad Theresa May.

Pleidleisiodd 62% o bobol yr Alban i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac wedi’r bleidlais Brexit dywedodd Nicola Sturgeon bod ail refferendwm ar annibyniaeth yn “fwy tebygol.”