Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Fe fydd Theresa May yn amlinellu rhagor o’i chynlluniau ar gyfer Brexit mewn araith fawr heddiw.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddweud nad ydy hi eisiau canlyniad sy’n gadael y Deyrnas Unedig “hanner i mewn, hanner allan” o’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Mae rhannau o’r araith hirddisgwyliedig sydd wedi cael eu rhyddhau gan Downing Street yn awgrymu bod Theresa May yn barod i dynnu Prydain allan o’r farchnad sengl a’r undeb tollau ond nid yw’n glir a fydd hi’n rhoi ateb pendant i’r cwestiwn.

Fe fydd Theresa May yn dweud ei bod eisiau i Brydain barhau’n “bartneriaid a chymydog” i’r 27 o wledydd eraill sy’n aelodau o’r UE. Ond fe fydd yn mynnu nad yw hi eisiau cadw “rhannau o’r aelodaeth” neu gael aelodaeth “rhannol” o’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd y bunt wedi gostwng yn erbyn y ddoler ar drothwy’r araith ac mae disgwyl diwrnod heriol yn y marchnadoedd arian wrth i fuddsoddwyr bwyso a mesur effaith posib sylwadau Theresa May ynglyn a dyfodol masnachol Prydain gyda’r cyfandir.

Dywedodd Downing Street y bydd Theresa May yn gosod 12 o flaenoriaethau ar gyfer y trafodaethau Brexit, gyda’r bwriad o wneud Prydain yn gryfach a thecach.