Mae Donald Trump wedi awgrymu fod asiantaethau cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau yn “Natsïaid”, ac yntau yng nghanol ffrae am ffeiliau honedig sydd gan Rwsia yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol am y darpar-arlywydd.

Mae’r biliwnydd wedi beirniadu cyfryngau’r Unol Daleithiau am gyhoeddi “honiadau di-sail” fod gan Rwsia wybodaeth a ellid gael ei defnyddio i’w flacmelio.

Dywedodd llefarydd ar ran y Kremlin fod yr honiadau yn “anwiredd ac yn nonsens llwyr” gan wrthod y syniad bod llywodraeth Rwsia yn “casglu deunydd cyfaddawdu” am bobol.

Dywedodd Donald Trump na ddylai’r asiantaethau cudd-wybodaeth fod wedi caniatáu i’r “newyddion ffug” gael ei ryddhau gan ychwanegu “ydyn ni’n byw yn yr Almaen Natsïaidd?”

Yn ôl papur newydd The New York Times, mae’r ffeiliau wedi’u casglu gan gyn-swyddog cudd-wybodaeth o wledydd Prydain oedd â gwybodaeth eang am Rwsia yn ystod y ras am yr arlywyddiaeth.

Mae adroddiadau hefyd bod y goflen wedi cael ei noddi gan ei wrthwynebwyr gan gynnwys Gweriniaethwyr.