Theresa May (Llun: PA)
Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi addo adeiladu cymdeithas deg wrth herio “anghyfiawnderau bob dydd” sy’n cael eu teimlo gan y rhai sy’n credu eu bod nhw’n cael eu hanwybyddu.

Un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Prydain o dan Theresa May yw helpu’r rhai “sydd jyst â bod” yn llwyddo i gael deupen llinyn ynghyd.

Bydd hi’n traddodi araith ddydd Llun gyda’r bwriad o ddangos na fydd ei thymor wrth y llyw yn cael ei ddiffinio gan Brexit.

Bydd ei datganiad yn wahanol i eiddo dau o’i rhagflaenwyr, gyda Margaret Thatcher yn dweud rywdro nad oes “y fath beth â chymdeithas”, a David Cameron yn dibynnu i raddau helaeth ar sefydliadau gwirfoddol yn hytrach na’r Wladwriaeth i wireddu ei agenda Cymdeithas Fawr.

Yn ôl Theresa May, mae llywodraethau blaenorol wedi canolbwyntio’n ormodol ar y bobol dlotaf oll yn y gymdeithas drwy’r system fudd-daliadau yn hytrach na chynnig cymorth i’r rhai sydd ychydig y tu hwnt i’r trothwy.

Dywedodd fod hynny wedi achosi rhwyg yn y gymdeithas.

“Goresgyn y rhaniadau hyn a dod â’n gwlad ynghyd yw her ganolog ein hoes,” meddai.

“Mae hynny’n golygu adeiladu cymdeithas gyffredin. Cymdeithas nad yw’n gwerthfawrogi ein hawliau unigol yn unig ond sy’n canolbwyntio’n hytrach ar y cyfrifoldebau sydd arnon ni i gyd i’n gilydd; cymdeithas sy’n parchu undod y teulu, cymdeithas, dinasyddiaeth a sefydliadau cryf ry’n ni’n eu rhannu fel undod rhwng pobol a chenhedloedd; cymdeithas sy’n ymroi i fod â thegwch wrth ei chalon.”

Ychwanegodd fod “mwy i fywyd nag unigolyddiaeth a hunanfuddiannau”.

Bydd ei chynlluniau’n cynnwys sicrhau bod plant yn cael addysg dda ac yn gallu adeiladu’r ysgol dai yn y pen draw.

Dywedodd hefyd y byddai’n helpu plant sy’n dioddef o salwch, pobol o amryw gefndiroedd ethnig o fewn y system gyfiawnder a bechgyn gwyn sy’n llai tebygol na phobol eraill o fynd i’r brifysgol, ynghyd â phobol sy’n dioddef o salwch meddwl.

Bydd hi’n ymhelaethu ar ei chynlluniau ar raglen Sophy Ridge On Sunday ar Sky News y bore ma.