Mae un o brif roddwyr y Blaid Geidwadol wedi bygwth tynnu ei arian yn ôl pe bai Llywodraeth Prydain yn tynnu allan o’r farchnad sengl.

Yn ôl yr arbenigwr peiranyddol, Syr Andrew Cook, byddai swyddi ac allforion yn y fantol pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb aros yn rhan o’r farchnad sengl, ac fe fyddai Prydain yn “cerdded yn ei chwsg tuag at drychineb”, yn ôl y Times.

Dywedodd cadeirydd cwmni William Cook fod ei gwmni’n ddibynnol i raddau helaeth ar allforion i Ewrop ac ar lafur gweithwyr o’r cyfandir.

“Dw i’n ceisio egluro pa mor hanfodol yw’r farchnad sengl i’r economi go iawn,” meddai wrth raglen Today BBC Radio 4.

Eglurodd fod un o’i ffatrïoedd yn Sheffield yn cyflogi 200 o bobol sy’n creu cydrannau i’w hallforio i Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal, a bod ei ffatri arall yn Leeds yn cyflogi 200 o bobol i greu cydrannau ar gyfer y diwydiant trenau.

“Mae rhwystrau i fynediad heb y farchnad sengl, mae yna dariff.

“Mae dymuniad gan fy nghystadleuwyr yn Ewrop i’m gadael allan o’r farchnad. Heblaw am fodolaeth y farchnad sengl, fyddwn i ddim yn masnachu gyda’r bobol hyn.”

Rhybuddiodd nad oes digon o gwmnïau i fasnachu â nhw yng ngwledydd Prydain, ac nad oedd pleidleiswyr wedi ystyried effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwydiant.

“Dw i ddim yn meddwl eu bod nhw wedi cael eu taflu allan ar sail gwybodaeth synhwyrol. Y ffaith yw fod y swm o arian ry’n ni’n ei gyfrannu at yr Undeb Ewropeaidd wedi cael ei gyfleu gan ymadawyr fel swm sylweddol heb gael unrhyw beth yn ôl.

“Ry’n ni’n sôn yma am drigolion yr Undeb Ewropeaidd sydd â sgiliau yn dod yma i lenwi swyddi na all pobol Prydain eu gwneud neu ddim eisiau eu gwneud.”

Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn mynnu bod yr hawl i drigolion symud yn rhydd ar draws Ewrop yn amod o gael aelodaeth o’r farchnad sengl, ac nad oes modd cyfaddawdu.