Theresa May
Mae bron i chwech o bob 10 person – 57% – yn meddwl bod Theresa May yn gwneud smonach o Brexit, yn ôl arolwg newydd.

Yn ôl arolwg  YouGov ar gyfer papur newydd The Times mae nifer y bobol sydd ddim yn hyderus yng ngallu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dynnu gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, wedi cynyddu o 53% i 57% ers mis Rhagfyr.

Mae’r ganran sy’n credu bod y Prif Weinidog yn delio â’r mater yn llwyddiannus wedi aros ar 20%.

Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o bobol Prydain yn dal i ffafrio gadael yr Undeb Ewropeaidd, gyda 47% yn credu mai dyna yw’r peth cywir i’w wneud a 43% yn anghytuno.

Ar fore canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin, 52% a bleidleisiodd i adael a 48% i aros. Erbyn hyn, dim ond 5% o’r sawl oedd am adael sydd bellach yn credu eu bod wedi gwneud y dewis anghywir.

Mae’r astudiaeth yn dangos hefyd bod 7% o’r bobol a bleidleisiodd i aros bellach wedi newid eu meddyliau.

Llai yn darogan gwae’r economi

37% o bobol sydd bellach yn credu y bydd y Deyrnas Unedig yn dlotach o ganlyniad i Brexit, o gymharu â 41% y mis diwethaf. 29% sy’n credu y bydd yr economi’n gwella ar ôl i’r ynys adael.

Roedd nifer y bobol sy’n credu y byddai Brexit yn bwrw swyddi wedi disgyn hefyd o 36% i 32%, o gymharu â 28% sy’n credu y byddai o fudd.

Roedd y nifer sy’n credu y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn lleihau lefel mewnfudo wedi aros ar 49%, 3% sy’n credu y byddai’n codi o achos Brexit a 34% yn meddwl na fydd gwahaniaeth.

Perfformiad gwael arall i Jeremy Corbyn

Er gwaetha’r diffyg hyder yng ngallu Theresa May ar drothwy Brexit, mae 47% yn dal i gredu mai hi yw’r opsiwn gorau fel Prif Weinidog, o gymharu â 44% ym mis Rhagfyr.

Mae’r nifer sy’n dweud y byddan nhw’n pleidleisio dros Lafur mewn etholiad wedi cynyddu o 24% i 26% ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol a ddisgynnodd o 12% i 10%.

Y Ceidwadwyr sydd ar y blaen o hyd, gyda 39% – 13 pwynt ar y blaen i blaid Jeremy Corbyn, gyda dim ond 14%, i lawr o 16%, yn credu mai fe fyddai’n gwneud y Prif Weinidog gorau.

O blith y rhai a bleidleisiodd dros Lafur yn 2015, roedd llai na thraean [29%], yn credu y byddai Jeremy Corbyn yn gwneud Prif Weinidog da.

Ar y cyfan, Llafur oedd yn cael ei gweld fel y blaid orau i lywio’r Gwasanaeth Iechyd a pholisi tai, ond y Ceidwadwyr oedd ar y blaen o ran yr economi, trethi, mewnfudo, addysg, y gyfraith a threfn, diweithdra a Brexit.