Ymosodiadau terfysgol Paris, Tachwedd 15, 2015
Mae prif weinidog Ffrainc wedi amddiffyn y penderfyniad i ymestyn y stad o argyfwng sydd wedi bod mewn grym yn ei wlad ers yr ymosodiadau terfysgol ar ddinas Paris ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae Bernard Cazeneuve yn dweud fod 17 o ymosodiadau pellach wedi’u rhwystro yn Ffrainc yn ystod 2016, ac mai dyna pam ei fod yn gofyn i’w Senedd ymestyn y stad o argyfwng tan Orffennaf 15, 2017.

Fe fydd y Senedd yn pleidleisio ar y mater yr wythnos nesa.

Mae angen estyniad o saith mis er mwyn gwneud yn berffaith siwr, meddai, fod diogelwch ar ei ucha’ adeg etholiad cyffredinol ac etholiad dewis arlywydd y wlad yn y gwanwyn.