Llun: PA
Bydd cynllun fydd yn gweld cwmni Network Rail yn colli rheolaeth lwyr o rwydwaith trenau Lloegr yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Prydain.

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Chris Grayling am i’r cwmni, sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus, rannu cyfrifoldebau tros reoli’r rhwydwaith hefo cwmnïau preifat.

Mae’n credu y byddai’r newid yn arwain at wasanaethau mwy dibynadwy ac yn gymorth i “drawsnewid profiad y cwsmer” sy’n defnyddio trenau i deithio.

Dywedodd Network Rail ei fod yn croesawu’r cynlluniau gan y byddai’n cryfhau ei gysylltiadau presennol hefo darparwyr.

Cysylltiadau

Mewn araith yn y Gyfnewidfa Bolisi yn Llundain, fe fydd Chris Grayling yn dweud bod angen newid y berthynas rhwng y rhwydwaith a’r trenau, gan fod sefyllfaoedd yn medru bod llawer yn waeth pan mae oedi ar y naill neu’r llall.

“Yn fy mhrofiad i, dyw teithwyr ddim yn deall bod gwahaniaeth rhwng y ddau. Yr unig beth maen nhw eisiau yw i’w trenau fod ar amser. A dw i’n cytuno hefo nhw,” meddai.