Mae adroddiadau y gallai grwpiau dur Tata Steel a Thyssenkrupp gau un o’r ffwrneisi ym Mhort Talbot yn “atgyfnerthu’r alwad i greu cwmni dur i Gymru”, yn ôl Plaid Cymru.

Yn ôl asiantaeth newyddion Reuters, fe allai’r cwmni dur Thyssenkrupp o’r Almaen “leihau” y gweithgynhyrchu ym Mhort Talbot yn y dyfodol.

Byddai cau un o’r ffwrneisi yn arwain at nifer sylweddol o ddiswyddiadau ymhlith y gweithlu o 4,000 sydd ym Mhort Talbot.

‘Brawychus’

“Mae’r newyddion brawychus hwn unwaith eto’n tanlinellu sut mae tynged miloedd o weithwyr dur yng Nghymru – a rhan fawr o’r economi sy’n ddibynnol ar y diwydiant dur – yn dibynnu ar fyrddau wedi’u lleoli dramor lle nad yw’r buddiannau fel arfer yn gymesur â’r gweithwyr ym Mhort Talbot,” meddai Plaid Cymru.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru arwain hyn gan bwyso unwaith eto am berchnogaeth Gymreig o safleoedd Tata Steel yma.

“Mae hefyd angen inni bwyso am unrhyw gyllid Ewropeaidd tra ei fod dal ar gael inni, er mwyn caniatáu i Bort Talbot a llefydd eraill foderneiddio a diogelu eu dyfodol.”

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins, wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain i “wrthsefyll” gofynion pensiwn Tata ac, yn lle, “darparu’r newid a fydd yn rhyddhau talent a sgiliau’r gweithwyr dur yng Nghymru, fydd a buddiannau i Gymru gyfan.”