(llun; PA)
Mae gwleidydd Torïaidd blaenllaw wedi mynegi ofnau y gallai’r Goruchaf Lys roi “pwerau feto” i lywodraethau’r Alban a Chymru dros Brexit.

Dywed y cyn-weinidog Oliver Letwin fod llywodraeth Prydain mewn perygl o greu sefyllfa o’r fath os bydd yn parhau â’i hapêl i’r Goruchaf Lys am yr hawl i  adael yr Undeb Ewropeaidd heb gymeradwyaeth seneddol.

Daw ei rybudd ar ôl i lywodraethau Cymru a’r Alban gael hawl i chwarae rhan yn achos y Goruchaf Lys a fydd yn cychwyn ar 5 Rhagfyr.

Er bod Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw, wedi dweud na fyddai Llywodraeth Cymru’n ceisio atal Brexit, mae’n annhebygol y bydd Llywodraeth yr Alban mor barod i gydymffurfio.

Mae Oliver Letwin ymhlith carfan o Dorïaid sy’n galw ar y Llywodraeth i roi’r gorau i’r apêl i’r Goruchaf Lys a chyflwyno mesur yn y Senedd yn lle hynny i weithredu Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn eu plith mae’r cyn dwrnai cyffredinol Dominic Grieve sy’n rhybuddio bod siawns y Llywodraeth o ennill yr achos llys yn isel.