Jeremy Corbyn (Garry Knight CCA 2.0)
Mae buddugoliaeth Donald Trump yn rhybudd fod yn rhaid i Brydain gipio grym oddi wrth y biliwnyddion sy’n ariannu’r Torïaid, yn ôl arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.

Dywed fod Trump yn targedu ofnau pobl sydd wedi cael eu gadael ar ôl, ond yn hytrach na chynnig atebion iddyn nhw, ei fod yn taflu’r bai ar rannau eraill o gymdeithas.

“Does gennym ddim syniad sut mae Donald Trump yn bwriadu ‘gwneud America’n fawr unwaith eto’, a sloganau ac nid atebion  y mae Torïaid Theresa May yn eu cynnig i bobl Prydain,” meddai.

“Wnawn ni ddim taclo’r difrod sy’n cael ei wneud gan globaleiddio dim ond trwy adael yr Undeb Ewropeaidd. Wnawn ni ddim ‘adennill rheolaeth’ os na wnawn herio’r buddiannau corfforaethol sy’n rheoli’n ynni, ein trafnidiaeth ac sy’n meddiannu’n gwasanaethau cyhoeddus.

“Does gan y biliwnydd Donald Trump, na’r Torïaid sy’n cael eu cefnogi gan biliwnyddion, ddim diddordeb mewn rhoi grym yn ôl i bobl, nac mewn ffrwyno penrhyddid globaleiddio.”

Fe fydd Jeremy Corbyn yn annerch cynhadledd ranbarthol De-ddwyrain Lloegr y Blaid Lafur yng Nghaint yn ddiweddarach heddiw.