Mae cadeirydd pwyllgor seneddol wedi dweud ei fod yn “grac ac yn siomedig” ar ôl i gamera cudd gael ei ddarganfod yn ystod eu hymweliad â warws Sports Direct ddydd Llun.

Mae Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan wedi bod yn ymchwilio i arferion gwaith y cwmni yn Swydd Derby.

Roedd cynnwys y drafodaeth rhwng y pwyllgor a’r gweithwyr i fod yn gyfrinachol, ac mae’r cwmni’n mynnu nad oedden nhw wedi awdurdodi unrhyw un i ffilmio’r ymweliad.

Mae cadeirydd y pwyllgor, Iain Wright wedi anfon llythyr at bennaeth y cwmni, Mike Ashley i fynegi ei siom, gan ddweud bod y digwyddiad yn “gwbl annerbyniol”.

Gofynnodd am eglurhad gan Mike Ashley, gan ddweud bod yr helynt yn “peryglu enw da” y cwmni, ac yn codi cwestiynau am ymweliadau blaenorol â’r safle.