Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid
Fe fydd cynrychiolwyr o Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cwrdd âg Ysgrifennydd Brexit llywodraeth Prydain heddiw er mwyn trafod eu rhan yn y broses o baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r ysgrifennydd David Davis wedi addo “rhan allweddol” i’r sefydliadau datganoledig, gyda bwriad i gynnal cyfarfodydd misol er mwyn rhannu gwybodaeth.

Yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford fydd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau.

Mae disgwyl i David Davis ofyn i’r llywodraethau eraill “gyflwyno eu dadansoddiad” o’r sefyllfa er mwyn llunio safbwynt gwledydd Prydain yn ystod y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Llwyddiant

“Mae gwledydd Prydain wedi dewis gadael Ewrop, ac rydym yn benderfynol o weithio’n agos gyda llywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i’w wneud yn llwyddiant,” meddai David Davis.

“Rwyf am sicrhau fod gwybodaeth bwysig yn cael ei rhannu.

“Felly rydym yn gofyn i’r llywodraethau datganoledig i gyflwyno eu dadansoddiad a bydd hyn yn helpu ni i lunio ein blaenoriaethau ar gyfer trafod gyda’r Undeb Ewropeaidd, ac fe fyddwn ni yn rhannu ei’n safbwynt diweddara’ ni.”

Mae Llywodraeth Prydain yn gobeithio y bydd dyfarniad yr Uchel Lys ar y broses o weithredu Cymal 50 yn cael ei wrthod mewn apêl i’r Goruchaf Lys fis nesa’.