Nicola Sturgeon Llun: PA
Mae’r Prif Weinidog Nicola Sturgeon wedi cyhoeddi y bydd yr Alban yn ceisio ymyrryd yn achos Brexit, ar ôl i Lywodraeth Prydain ddweud y byddai’n ceisio gwyrdroi penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatáu Aelodau Seneddol i bleidleisio ar ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth y penderfyniad hwnnw gan yr Uchel Lys yr wythnos diwethaf, lle dyfarnwyd bod rhaid cael caniatâd y Senedd cyn bwrw ymlaen gyda’r broses ffurfiol o weithredu Cymal 50.

Roedd gan yr Alban swyddogion cyfreithiol yn arsylwi’r achos, ac fe ddywedwyd yn ddiweddarach y byddai’r wlad yn ystyried a fyddai’n ymyrryd ai peidio.

Cyhoeddodd Nicola Sturgeon heddiw y bydd yr Arglwydd Adfocad, sef swyddog cyfreithiol mwyaf pwerus yr Alban, yn cyflwyno cais i’r Goruchaf Lys i gael bod yn rhan o’r achos.

“Dyw hi ddim yn iawn fod hawliau sy’n gysylltiedig ag aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn medru cael eu dileu gan Lywodraeth Prydain ar air y Prif Weinidog – heb ddadl, ganiatâd neu graffu  seneddol,” meddai Nicola Sturgeon.

“Fe ddylid sicrhau cefnogaeth San Steffan a senedd Yr Alban cyn gweithredu Cymal 50,” ychwanegodd.

Roedd y Prif Weinidog Theresa May wedi dadlau nad oedd angen caniatâd ASau cyn bwrw mlaen â Brexit.